CAPLAN ORDEINIEDIG
Teitl y Rôl – Caplan Ordeiniedig (gwirfoddol)
Atebolrwydd
Bydd y Caplaniaid Ordeinieidig yn cydweithio gyda Grŵp Llywio Caplaniaeth Bae Colwyn a bydd yn adrodd yn ôl ac yn atebol i’r corff hwnnw.
Pwrpas y Rôl
i gynrychioli eglwysi Bae Colwyn a Rhos yng nghanol y dref ac i godi’w proffil yn y gymuned adwerthu a busnes, ond nid i hybu unrhyw eglwys unigol
i ddatblygu presenoldeb Cristnogol yng nghanol tref Bae Colwyn
i sefydlu a datblygu perthynas dda yng nghanol y dref
i gynnig rôl caplan – ymwelydd i’r gymuned adwerthu a busnes
i fod yn dosturiol wrth ymdrin â phobl ac i gynnig gweinidogaeth Gristnogol lle bo hynny’n addas
i gynnig cefnogaeth i gwmni neu fusnes os oes aelod o staff wedi’w anafu neu wedi marw
i arwain gwasanaethau crefyddol o bryd i’w gilydd, e.e. gwasanaeth carolau neu wasanaeth coffa.
i wneud trefniadau, os yn addas, i ymweld â staff sy’n sâl, naill ai gartref neu mewn ysbyty, ac i gynnig gofal a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau.
i arwain / gyd-weithio â thîm bychan o gaplaniaid lleyg
i fod ar gael i bobl o bob ffydd ac i rai heb ddim ffydd
i weddîo’n rheolaidd dros y gweithlu a thros sefyllfaoedd ac aelodau o staff mewn angen.
Manylion y Person
Hanfodol
Rhaid i ymgeiswyr fod o eglwys sy’n gydnabyddedig gan Cytûn Cymru / EYPI (CTBI).
Feddu ar sgiliau rhyngbersonol da a bod yn wrandawr da.
Yn gallu cymell ei hunan, bod yn hyblyg, heb farnu eraill a gyda sensitifrwydd bugeiliol.
Manteisiol
Profiad o drefnu / reoli tîm.
Profiad o gaplaniaeth yn y gweithle.
Sgiliau gwrando / cynghori.
Peth gwybodaeth o ddiwylliant gwaith adwerthu.
Termau ac Amodau
Oriau hyblyg am un flwyddyn gydag adolygiad wedi 12 mis.
Cyfle i ddal ymlaen yn y swydd gan ddibynnu ar yr adolygiad wedi 12 mis, a gyda chytundeb Grŵp Llywio’r Gaplaniaeth.
Cyfnod gwyliau i’w drefnu ar y cyd efo’r cyd-weithwyr lleyg
Rheidrwydd i gadw at reolau Iechyd a Diogelwch y sefydliadau yr ymwelir â nhw
Mae unrhyw benodiad yn dibynnu ar:
Tystlythyrau boddhaol
Y gwiriadau DBS arferol
Cyfnod ar brawf o 3 mis a chyfnod rhybudd i adael o 1 wythnos
Bydd angen rhybudd terfyniad o 1 mis gan y Grŵp Llywio’r Gaplaniaeth yn dilyn y cyfnod prawf.
Tâl
Mae’r swydd yn wirfoddol, ond telir costau a gytunir. Gellir negydu cydnabyddiaeth.
Lwfans am alwadau ffôn, teithio a lluniaeth achlysurol.
Hyfforddiant pellach trwy ymgynghori â Grŵp Llywio’r Gaplaniaeth.