- Cyflwyniad
- 1. Mae cyfleoedd cyfartal yn rhan annatod o waith Caplaniaeth Canol Tref Bae Colwyn (CCTBC) a’r gwasanaethau a gyflwynir. Rydym yn sicrhau’n weithredol fod ein polisîau ac arferion gweithio yn ddiduedd ac yn hybu cyfleoedd cyfartal.
- 2. Mae CCTBC yn ymrwymedig i drin pob unigolyn, grŵp, sefydliad a busnes mewn modd teg a chyfiawn. Rydym yn gwrthwynebu gwahaniaethu yn ei holl ffurfiau ac yn gweithio’n weithredol i godi ymwybyddiaeth ac i herio arferion sy’n rhagfarnllyd.
- 3. Rydym yn ymrwymedig i gyfleoedd cyfartal nid yn unig am fod yn rhaid inni gadw at y ddeddf ond oherwydd ein bod yn credu mewn, ac wedi ymrwymo’n llawn i gyfartaledd a chyfle i bawb. Credwn fod Duw wedi creu pawb yn gyfartal a’u bod i’w trin gydag urddas a pharch.
- Diffiniadau o Wahaniaethu Uniongyrchol ac Anuniongyrchol
- 1. Mae gwahaniaethu uniongyrchol yn digwydd pan fydd person yn cael ei drin / thrin yn llai ffafriol nag un arall, nid ar deilyngdod yr achos, ond ar sail statws personol.
- 2. Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fydd rheol, rheoliad neu amod yn cael ei weithredu sy’n ymddangos fel petai’n trin pawb yn gyfartal ond sy’n annheg i rai unigolion ar unrhyw sail.
- Datganiad Polisi
Caplaniaeth Canol Tref Bae Colwyn:
- 1. Fydd ddim yn gwahaniaethu’n uniongyrchol nac yn anuniongyrchol yn erbyn busnesau, sefydliadau, grwpiau nac unigolion y byddwn yn dod i gysylltiad â nhw o achos : rhyw, gogwydd rhywiol, lliw, hil, cenedl, gwreiddiau ethnig, neu genedlaethol, statws priodasol, anabledd, oed, cred grefyddol na chefndir troseddol.
- 2. Bydd yn cadw at ofynion holl gyfreithiau cysylltiadau hiliol, gwahaniaethau rhywiol, tâl cyfartal a gwahaniaethau anabledd, yn ogystal â chyfarwyddiadau’r Gymuned Ewropeaidd a chyfreithiau perthnasol y Gymuned Ewropeaidd sydd am warantu’r hawl sylfaenol i gael eich trin yn gyfartal heb wahaniaethu annheg.
- 3. Bydd yn rhoi cyfle cyfartal i bob ymgeisydd am rôl, ac i bob gwirfoddolwr / wraig, beth bynnag fyddo’i statws personol ac eithrio mewn achos o:
a: gred grefyddol mewn achos lle mae gofynion y rôl yn eglur am aelodaeth neu gyswllt ag eglwys neu grŵp crefyddol, neu ymdeimlad ag amcanion Cytûn.
b: cefndir troseddol mewn achos lle mae’r hanes cofnod troseddol yn berthnasol i ofynion y swydd.
- 4. Bydd yn sicrhau, lle mae hynny’n bosibl, fod yr holl gyhoeddusrwydd, taflenni a gwybodaeth ar gael mewn ffyrdd a mannau addas.
- 5. Bydd yn sicrhau fod hyfforddiant addas ar gael i alluogi pob gwirfoddolwr / wraig i gyflawni ei rôl yn effeithiol.
- 6. Bydd yn sicrhau fod pob ymgeisydd am rôl yn derbyn gwybodaeth glir, gywir a digonol trwy hysbysebion, swydd ddisgrifiadau a chyfweliadau i’w galluogi i hunan asesu eu haddasrwydd ar gyfer y rôl.
- 7. Bydd yn sicrhau fod lleoliadau a ddefnyddir ar gyfer cyfweliadau a chyfarfodydd yn gwbl addas i bob ymgeisydd.
- 8. Bydd yn sicrhau pan nad yw cyfleoedd cyfartal yn cael eu cynnig, yr ymchwilir i’r amgylchiadau i weld os oes yna unrhyw bolisîau neu feini prawf sy’n eithrio neu ddim yn annog gwirfoddolwyr.
- Recriwtio
- 1. Rheolir CCTBC trwy Grŵp Llywio Gwirfoddol Caplaniaeth Canol Tref Bae Colwyn, sy’n gyfrifol am lunio hysbysebion, swydd ddisgrifiadau, manylebau person, llunio rhestr fer, cyfweliadau ac apwyntio staff.
- 2. Rhennir yr holl hysbysebion mewn cymaint o ardaloedd â phosibl i sicrhau fod grwpiau targed yn gallu cael at yr holl wybodaeth am y swyddi.
- 3. Anfonir pecyn at bob ymgeisydd, neu bydd ar gael i’w lawr lwytho, gyda’r swydd ddisgrifiad, manyleb y person, polisîau a deunydd yn egluro gwaith CCTBC.
- Rheolaeth
- 1. Penodir Grŵp Llywio CCTBC gan Cytûn Bae Colwyn a Rhos i adlewyrchu’r eglwysi lleol sy’n gynwysedig ym mhrosiect y Gaplaniaeth.
- 2. Darperir hyfforddiant addas a gwybodaeth ar gyfer aelodau’r Grŵp Llywio i’w galluogi i gyflawni’r rôl yn effeithiol.
- 3. Fe wneir adolygiad blynyddol o Gaplaniaeth Canol y Dref ac adrodd yn ôl i Cytûn Bae Colwyn a Rhos ar gyfer arweiniad pellach.